Mae Joe Saxton yn siarad yng nghynhadledd gofod3 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yng Nghaerdydd ar 21 Mawrth, ac mae prif neges ei sgwrs yn un syml: mae'n hen bryd i gael rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru i Gymru. Dyma pam:
1. Nid yw Cymru yr un peth â Lloegr!
Mae datganoli yng Nghymru wedi datblygu'n sylweddol ers sefydlu Llywodraeth Cymru yn y 90au. O ran pwyso a mesur datganoli, prin yw'r rhai a fyddai'n troi'r cloc yn ôl, gydag addysg ac iechyd yn ddwy enghraifft lle mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisïau unigryw ei hun. Mae daearyddiaeth, economi, diwylliant, a demograffeg Cymru yn cyfuno i sicrhau na fydd atebion gwleidyddol, rheoliadol a chyfreithiol Lloegr o reidrwydd yn gweithio yng Nghymru. Felly pam y dylai rheoleiddio elusennau fod yn gysylltiedig ag anghenion Lloegr, heb adlewyrchu sefyllfa Cymru? Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg; fodd bynnag, prin yw'r wybodaeth am y Gymraeg ar wefan y Comisiwn Elusennau. Dyna un enghraifft syml lle nad yw'r gyfundrefn reoleiddio bresennol yn gwasanaethu Cymru'n llwyddiannus.
2. Mae'n well gan y cyhoedd yng Nghymru gefnogi elusennau yng Nghymru
Mae ymchwil nfpSynergy yn y gwledydd datganoledig yn glir: mae pobl Cymru yn hoffi cefnogi elusennau sy'n gwario eu harian yng Nghymru ac sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Dengys data o'n gwaith monitro ymwybyddiaeth elusennau Celtaidd fod yn well gan dros hanner y cyhoedd yng Nghymru gefnogi elusen leol neu elusen Gymreig, tra mai dim ond 10% o bobl oedd yn well efo elusennau o'r Deyrnas Gyfunol sydd â swyddfa yng Nghymru. Nid yw hynny'n golygu eu bod am i'w harian gael ei wario yng Nghymru yn unig – mae 41% yn dweud y gallasai eu rhodd cael ei wario unrhyw le yn y DU, tra byddai'n well gan 38% pe bai eu cyfraniad yn cael ei wario yng Nghymru. Mae hyn yn gwneud rheoleiddio elusennau yng Nghymru yn bwysicach fyth.
3. Mae rheoleiddwyr a chyrff llywodraethol eraill yn tueddu i fod wedi'u datganoli'n llawn neu yn gweithio ar draws y Deyrnas Gyfunol
Mae yna anghysondeb mewn Comisiwn Elusennau sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr: mae llawer o reoleiddwyr mewn sectorau eraill yn gyrff penodol ar gyfer Cymru'n unig - Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Estyn a'r tebyg. Neu, mae yna gyrff sy'n rheoleiddio ledled y Deyrnas Gyfunol/Prydain Fawr, sef y strwythur sydd gan Ofcom ac Ofgem (er yn ddiddorol iawn, mae Pwyllgor Cynghorol Cymru Ofcom yn parhau). Ni allaf ddod o hyd i reolydd arall sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr; fodd bynnag, gall fod rhai yn bodoli gan nad wyf wedi ymchwilio eto i bob corff rheoleiddio a llywodraethol.
4. Mae angen i'r sector elusennol yng Nghymru gael hunaniaeth ar wahân
Mae diffyg unrhyw reoleiddio ar wahân yn bwysig oherwydd bod gan sector elusennol Cymru ei anghenion a'i heriau ei hun (a dyna pam nad yw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, SCVO na NICVA yn rhan o NCVO). Roedd yn nodi sut y mae patrymau incwm ar gyfer elusennau yng Nghymru yn wahanol i elusennau yn Lloegr. Mae ein hymchwil ni yn dangos sut mae canfyddiadau elusennau - ac yn arbennig, lefelau o ymddiriedaeth – yn y gwledydd datganoledig yn wahanol. Ond er bod lefelau ymddiriedaeth yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn amlwg yn uwch na'r Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol, nid yw Cymru mor wahanol â hynny. Cyhyd ag y bydd y drefn o reoleiddio Cymru yn dilyn trefn Lloegr, mae'n anodd gweld y bydd y sector elusennol yng Nghymru yn ffynnu gymaint ag y gallai.
5. Rydym angen adnabod hyd a lled y sector elusennol yng Nghymru
Y cam cyntaf tuag at adeiladu dull a strategaeth o’r newydd ar gyfer elusennau a sefydliadau cymunedol yng Nghymru yw dechrau deall ffurf, maint a newidiadau yn y sector. Clywn lawer am yr elusennau mwyaf sy'n tyfu'n gyflymach na'r gweddill, a sut y mae incwm gwirfoddol yn gostwng. A yw hynny'n wir am Gymru fel y mae i Loegr? Mae'n bosib y byddwch chi'n debygol o ddod o hyd i'r wybodaeth honno gyda rhywfaint o waith ymchwil, ond dydw i ddim yn credu bod hyd yn oed Almanac NCVO yn cynhyrchu llawer o wybodaeth benodol i Gymru. Mae CGGC wedi gwneud rhywfaint o waith yn y maes hwn (Porth Data'r Trydydd Sector) ond buasai hyn yn llawer haws pe bai rheolydd ar wahân i Gymru.
6. Mae gan wledydd datganoledig arall Y Deyrnas Gyfunol rheoleiddiwr elusennau eu hunan
Mae gan yr Alban Swyddfa rheoleiddiwr elusennau'r Alban (OSCR) ac mae gan Ogledd Iwerddon y Comisiwn Elusennau NI (CCNI). Ni all yr anghysondeb hwn fod yn ganlyniad i faint y boblogaeth gan fod tua 1.7 miliwn o bobl yn Ogledd Iwerddon, 3.1miliwn yng Nghymru a 5.2 miliwn yn yr Alban. Gan Iwerddon ei rheoleiddiwr elusennau ei hun nawr hefyd.Mae rhesymeg rheoleiddiwr elusennol datganoledig yn gryf – mae'r sectorau elusennol ym mhob gwlad yn wahanol ac mae angen dull rheoleiddio gwahanol arnynt: mae hynny yr un mor wir am Gymru ag y mae am yr Alban a Gogledd Iwerddon.
7. Caiff y cyhoedd eu calonogi drwy wybod am reoleiddiwr elusennau
Mae ymchwil ein grŵp ffocws yn dangos bod rhoddwyr yn dawel eu meddwl drwy wybod bod corff rheoleiddio elusennol. Y broblem yw i Gymru yw bod y rheoleiddiwr gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, a'i fod yn teimlo yr un mor bell â phopeth arall sy'n digwydd yn Llundain. Er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl ag y bo modd yn gwybod am reoleiddio elusennau Cymru, mae angen bod yn bresenoldeb effeithiol gweladwy ar lawr gwlad, a byddwn yn dadlau nad yw'r Comisiwn Elusennau yn Llundain yn gallu gwneud hynny.
8. Nid oes gan y Comisiwn Elusennol strategaeth ar gyfer Cymru
Er mai'r Comisiwn ar gyfer Cymru a Lloegr ydyw, mae'n trin y ddaearyddiaeth fel un bloc homogenaidd. Yn y ddogfen am fwriad strategol y Comisiwn a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, nid oedd sôn am Gymru ar ei phen ei hun. Mae'r un peth yn wir am yr adroddiad blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf: yr unig sôn am Gymru yw yng nghyd-destun Lloegr. Yr eithriad i hyn yw'r gofyniad bod gan o leiaf un aelod o'r Bwrdd wybodaeth arbennig am Gymru. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod deiliad presennol y swydd hon yn byw yng Nghymru, nac ychwaith ag unrhyw wybodaeth berthnasol am elusennau yng Nghymru, a dim ond yn gymwys trwy fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol i un o gymdeithasau adeiladu Cymru. Yn wir, alla i ddim gweld bod gan unrhyw un o aelodau Bwrdd y Comisiwn unrhyw brofiad o elusennau Cymreig, er efallai nad yw proffiliau gwefannau yn adrodd y darlun cyfan.
9. Nid yw Y Comisiwn Elusennol yn darparu adroddiadau na chynnwys penodol ar gyfer Cymru
Law yn llaw â'r diffyg strategaeth Gymreig a'r hyn a ystyriaf yn bresenoldeb symbolaidd yn unig ar y Bwrdd, mae yna ddiffyg cyffredinol o unrhyw beth sy'n adrodd yn benodol ar Gymru (y gallaf weld tra'n chwilio'n hamddenol ar-lein). Er bod y Comisiwn Elusennau yn adrodd am yr elusennau mwyaf ac yn rhannu mathau eraill o ddadansoddiadau, nid oes gwybodaeth am nifer yr elusennau, na'r incwm ar eu cyfer, yng Nghymru. Yn wir, ni allaf weld unrhyw wybodaeth benodol ar gyfer Cymru sy'n rhoi'r term chwilio 'Cymru' neu, 'elusen Cymru' ar wefan y Comisiwn (er bod dod o hyd i fy mand treth gyngor i weld ar y canfyddiadau chwilio!). Mae yna swyddfa yng Nghymru, ond am wn i mae'n ymwneud â gweithgaredd ledled y Deyrnas Gyfunol.
10. Dylai unrhyw rheoleiddio elusennau yng Nghymru fod yn atebol i Lywodraeth Cymru
Mae fy rheswm olaf yn seiliedig ar y cwestiwn syml – pwy sydd â'r grym i wneud i elusennau a sefydliadau cymunedol yng Nghymru ffynnu; Llywodraeth San Steffan, neu Lywodraeth Cymru? Rwy'n credu, i'r rhan fwyaf o bobl, y byddai'r ateb yn glir iawn – Llywodraeth Cymru. Ac o gymryd bod hynny'n wir, yna dylai rheoleiddio elusennau yng Nghymru fod yn atebol i Lywodraeth Cymru, ac nid i San Steffan.
Diolch i David Wyn am y cyfeithiad